|
Annwyl {FIRST_NAME} Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i fygythiadau a wnaed i ddwy ysgol yng Nghaerdydd. Tua 8.30pm ddoe (dydd Sul, Mawrth 15) derbyniodd yr heddlu sgwrs fyw yn gwneud bygythiadau i niweidio pobl yn Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Uwchradd y Dwyrain.
Y wybodaeth oedd bod unigolyn wedi bwriadu mynychu'r ysgolion gyda arfau yn ei feddiant.
Ar y cam hwn, mae'r wybodaeth yn cael ei hymchwilio'n weithredol i asesu'r hygrededd a phennu tarddiad y bygythiad.
Yn dilyn trafodaeth rhwng Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd, gwnaed penderfyniad i gau'r ddwy ysgol.
Ni chymerwyd y penderfyniad ar y cyd hwn yn ysgafn ond fe'i gwnaed gyda diogelwch disgyblion, staff a chymunedau ehangach yr ysgol mewn golwg.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth nac adroddiad bod unrhyw bobl yn mynychu'r naill ysgol na'r llall yn peri bygythiad.
Gwelir presenoldeb plismona cynyddol yn yr ardal tra bod yr ymchwiliad a'r chwiliadau'n parhau.
Rydym yn deall bod hyn yn peri pryder i rieni a'r gymuned. Mae'n bwysig ein bod yn asesu'r wybodaeth yn llawn ac yn sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael. Diolch yn fawr. |